Mae peryg y bydd Gareth Bale yn colli gêm Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd yng Ngwlad Belg.

Mae disgwyl i Bale chwarae i'w glwb yn Los Angeles yn oriau mân fore Llun (amser y DG) - oherwydd hynny, ni fydd yn cyrraedd Cymru tan ddydd Mawrth.

Bydd Cymru'n hyfforddi yn eu canolfan ym Mro Morgannwg ddydd Mercher, cyn hedfan i Frwsel ar gyfer eu gêm olaf ond un yng Nghynghrair y Cenhedloedd y noson ganlynol.

Meddai'r rheolwr, Robert Page: “Dydyn ni ddim wedi mynd i fewn i'r manylion eto, ond rydyn ni'n gwybod y bydd effaith arno.

“Dyw e ddim yn mynd i lanio tan ddydd Mawrth - mae’n rhaid i ni ei gael o Heathrow.

“Ond ei ddiogelwch a’i iechyd yw’r peth pwysicaf, felly bydd yn rhaid i ni reoli hynny.