Mae Anthony Joshua wedi derbyn cynnig i ymladd Tyson Fury, gyda disgwyl i'r ddau wrthdaro yng Nghaerdydd ar Ragfyr 3.

Fe wnaeth Fury roi cynnig i Joshua yr wythnos diwethaf a fyddai'n gweld y ddau yn ymladd am am deitl pwysau trwm y byd cyn diwedd y flwyddyn.

Cynigiodd Fury 40% o bwrs ymladd posibl o £75 miliwn i Joshua - fe dderbyniodd Joshua yn ddiweddarach.

Ond roedd dyddiad yr ornest yn parhau i fod yn broblem. Roedd Fury yn mynnu bod yr ornest yn cael ei chynnal ar Dachwedd 26 yn Wembley neu ar Ragfyr 3 yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, tra bod Joshua eisiau aros tan wythnos cyn y Nadolig.

Ond mae cwmni rheoli Joshua bellach wedi cyhoeddi eu bod wedi derbyn y dyddiad cynharach ym mis Rhagfyr, gan ddweud ar Twitter: “Gall 258  a Matchroom Boxing gadarnhau, ar ran Anthony Joshua, ein bod wedi derbyn yr holl delerau a gyflwynwyd i ni gan dîm Fury ar gyfer yr ornest ym mis Rhagfyr 3, ddydd Gwener diwethaf.

"Oherwydd marwolaeth y Frenhines, cytunwyd i atal pob cyfathrebu. Rydym yn aros am ymateb."

Trydarodd hyrwyddwr Fury, Frank Warren, ar unwaith gan ddweud: “Bydd y cytundeb gyda chi yn fuan iawn.”