Mae Llywodraeth Cymru wedi agor yngynghoriad cyhoeddus ar gynigion i roi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr.

Yr ardoll fydd tâl bach sydd i'w dalu gan ymwelwyr sydd yn aros dros nos mewn llety yng Nghymru - yn Saesneg, mae'n cael ei adnabod fel 'tourist tax', sy'n derm sarhaus i nifer o bobl.

Mae cynlluniau cynnar o amgylch yr ardoll yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol fedru cyflwyno'r tâl er mwyn i'r arian sy'n cael ei godi cael ei ailfuddsoddi i wasanaethau lleol, ac i gefnogi twristiaeth lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd hwn yn gallu amrywio o "gadw'r traethau a'r palmentydd yn lân, i fuddsoddi mewn cynnal parciau, toiledau a llwybrau troed lleol."

MWY: 'Tydi Cymru a’i threftadaeth ddim ar werth': galwad yr Archdderwydd am dreth dwristiaeth

Mae ardolliau ar dwristiaid yn gyffredin mewn dros 40 o wledydd. Yn Yr Almaen mae ardoll twristiaeth i gael mewn mwy na ugain o ddinasoedd, ble mae'n cael ei adnabod fel Kulturförderabgabe, sydd yn golygu "Treth i dalu am ddiwylliant".

Yn Florida, ychwanegir treth o 6 y cant at holl daliadau ystafelloedd gwesty. Yn Sir Orange, codwyd $34.7m gan y dreth hon ym mis Ebrill - y refeniw uchaf erioed ar gyfer mis Ebrill a'r cyfanswm misol uchaf erioed.

Bydd yr ymgynghoriad helaeth yn gofyn am safbwyntiau eang ynghylch pwy ddylai dalu ardoll, pwy fyddai’n codi’r ardoll ac yn ei gasglu, y dull gorau o’i weithredu, a sut y gellid darparu'r arian sydd yn cael ei godi.

Mae cyflwyniad yr ardoll yn bolisi sydd wedi dod oherwydd cytundeb rhyngweithiol y blaid Llafur a Phlaid Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: “Diben y cynigion hyn yw paratoi ar gyfer y dyfodol. Ein bwriad yw ennyn ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd ymysg preswylwyr ac ymwelwyr dros warchod ein hardaloedd lleol a buddsoddi ynddyn nhw. Drwy ofyn i ymwelwyr – p’un a ydyn nhw wedi teithio o fannau eraill yng Nghymru neu o bellach draw – i wneud cyfraniad bach tuag at gynnal a gwella’r ardal y maen nhw’n ymweld â hi, byddwn yn annog dull mwy cynaliadwy o weithredu ar gyfer twristiaeth.”

Dywedodd Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru: “Er y gall Cymru fod y lle cyntaf yn y DU i gyflwyno ardoll o’r fath, nid Cymru fydd yr olaf i wneud hynny. Fel y gwelsom yn ddiweddar, mae’n bosibl y bydd ardoll ymwelwyr yn cael ei gyflwyno yng Nghaeredin cyn bo hir.

“Rydym am barhau i weld diwydiant twristiaeth ffyniannus yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod gennym dwristiaeth gynaliadwy a chyfrifol sy’n gweithio i ymwelwyr a’r cymunedau y maen nhw’n ymweld â nhw fel ei gilydd.

"Rydym yn croesawu pob safbwynt er mwyn deall beth fyddai’n gweithio’n dda i Gymru, ac rydym yn annog pawb i gyfrannu i’r ymgynghoriad."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar rhoi'r gallu i awdurdodau lleol, fel Cyngor Sir Conwy, godi ardoll ar dwristiaid i gynnal gwasanaethau lleol (Llun: VisitWales).Jeff Smith o Gymdeithas yr Iaith

Wrth ymateb i fwriad Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar godi treth ar dwristiaeth dywedodd Jeff Smith: "Mae twristiaeth wedi cael ei wled fel rhywbeth sydd er budd ymwelwyr, heb ystyriaeth i effaith ar y gymuned.

"Mae nifer o ardaloedd yng Nghymru yn ddibynnol ar dwristiaeth ond dydy hynny ddim yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

"Mae ymwelwyr yn talu mwy i ymweld ag atyniadau neu fynd ar wyliau i nifer o ddinasoedd ar draws Ewrop, fel Paris, Fenis a Madrid, a gwledydd fel Seland Newydd a Siapan. Mae pobl yn dal i ymweld â’r lleoedd hynny.  Os ydyn ni'n credu bod Cymru yn lle deniadol i ddod i ymweld ag e yna mae'n sefyll i reswm y bydd pobl yn dal i ddod yma os oes rhaid talu swm bach ychwanegol, yn enwedig os yw hynny o fudd i'r ardal honno?

"Does dim rhaid codi symiau mawr ar unigolion, ond byddai codi treth ar ymwelwyr yn codi swm sylweddol a allai gael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol a datblygu diwydiant cynaliadwy sydd yn gwasanaethu'r gymuned."

Mae nifer sydd yn feirniadol o'r cynllun yn dweud bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar allu pobl i fynd ar wyliau, ac y bydd ardoll yn difa'r nifer o ymwelwyr i Gymru.

Mewn sesiwn o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ym Mehefin, dywedodd Paul Lewin, rheolwr cyffredinol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, wrth Bwyllgor Materion Cymreig y Senedd y byddai'n pryderu am y posibilrwydd y gallai treth benodol greu “PR drwg”.