Wrth i'r brenin newydd Charles III ymweld â Chymru am y tro cyntaf ar ddiwrnod Owain Glyndŵr (Medi 16) yn hwyrach, mae ymgyrchwyr yn y brifddinas yn trefnu protest yn erbyn cysyniad y frenhiniaeth.

Mi fydd y brenin yn ymweld â'r eglwys gadeiriol yn Llandaf cyn mynd i'r Senedd i dderbyn neges o gydymdeimlad. Yna fe fydd yn symyd ymlaen i Gastell Caerdydd ar gyfer cynulleidfa breifat gyda'r prif weinidog Mark Drakeford, a llywydd y Senedd, Elin Jones.

Tu allan i'r castell, mi fydd ymgyrchwyr yn ymgynnull am 1yh er mwyn protestio yn erbyn sefydliad y frenhiniaeth ar y sail ei fod yn annemocrataidd.

Yr wythnos hon mae deiseb ar-lein yn galw am ddiddymu'r teitl 'Tywysog Cymru' wedi cyrraedd 25,000 o lofnodion yn barod.

Bwriad y protestwyr yng Nghaerdydd yw i ysgogi pobl Cymru i ystyried os ydy cael teulu brenhinol yn angenrheidiol, ac i ystyried os oes yna ddyfodol hebddynt yn bosibl.

Ar ôl i nifer o brotestwyr gwrth-frenhiniaeth cael eu harestio dros yr wythnos diwethaf, mae protestwyr Caerdydd yn galw ar arweinwyr Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i atgoffa'r heddlu i barchu'r hawl ddemocrataidd i brotestio.

Fe aeth glip ar y cyfryngau cymdeithasol yn feiral yr wythnos hon, ar ôl i fargyfreithiwr gael ei fygwth o gael ei arestio gan yr heddlu - roedd wedi dal darn o bapur plaen o flaen yr heddwas.

Dywedodd Bethan Sayed, cyn AS dros Blaid Cymru ac actifydd: “Cyn gynted ag y penderfynodd y Brenin Charles III gyhoeddi y dylai’r Tywysog William ddod yn Dywysog Cymru, mor fuan ar ôl marwolaeth y Frenhines, roedd llawer ohonom yn teimlo rheidrwydd i ymateb.

"Rhaid inni drafod dyfodol Cymru, a gofyn beth rydym eisiau ar gyfer creu Cymru fodern. Mae cefnogaeth i annibyniaeth yn cynyddu. Mewn pythefnos bydd gorymdaith a rali dros annibyniaeth yn cael ei chynnal ar yr union strydoedd y bydd y brenin newydd yn teithio arnynt.

"Mae angen sgwrs genedlaethol arnom ynglyn a pham mae’r teulu Brenhinol yn cael eu geni i arwain drosom. Pam nad ydym yn addas i lywodraethu ein hunain? A ydym am gael Cymru yn rhydd o'r Frenhiniaeth? Os felly, sut olwg fydd ar hynny?

"Mae pobl yn dweud wrthym mai nid nawr yw'r amser i drafod y mater hwn. Fodd bynnag, pan fydd y frenhiniaeth yn trosglwyddo i Frenin newydd, nawr yw'r union amser i drafod y mater hwn. Mae’n ymwneud â thegwch, cydraddoldeb, a’r Gymru yr ydym am ei llunio ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’

Dywedodd cynrychiolydd Llafur dros Gymru Annibynnol, sy’n cefnogi’r weithred: "Fel ein harweinydd Mark Drakeford, gweriniaethwyr ydyn ni. Nawr yw'r amser gorau i drafod pa mor annheg yw'r frenhiniaeth a pha mor anaddas yw hi i Gymru'r 21ain Ganrif yr ydym i gyd yn ei hadeiladu.

"Cyn bo hir bydd 67 y cant o bobl Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd tra bydd y teulu brenhinol yn etifeddu miliynau, yn ddi-dreth. Mae ein democratiaeth yn cael ei gwanhau gan eu presenoldeb ac felly, yn y pen draw, rydym yn pwyso am weriniaeth annibynnol, sosialaidd i Gymru."

Dywedodd Cerith Griffiths, undebwr llafur: “Mae llawer wedi newid ers i’r Frenhines Elizabeth gael ei choroni dros 70 mlynedd yn ôl. Yn arwyddocaol, mae gan Gymru ei Senedd ei hun erbyn hyn ac mae’n gallu pasio deddfwriaeth sy’n gwneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n byw yng Nghymru. 

"Os ydym wir yn gwerthfawrogi democratiaeth yna mae angen inni gael dadl am rôl y frenhiniaeth."