
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yr wythnos hon y byddai’n “gwrthsefyll” unrhyw ymdrechion gan San Steffan i chwalu un o ddeddfwriaethau Cymru. Mae hyn wedi iddi ddod i'r amlwg y byddai deddf o 2017 yn cael ei ddileu gan San Steffan.
Mae Corgi Cymru wedi bod yn edrych ar sut y gallai Llywodraeth Cymru geisio gwrthsefyll y fath beth.
Yn ôl y cynllun gan San Steffan, fe fydd deddf Senedd sy’n gwahardd defnyddio gweithwyr asiantaeth dros dro yn ystod streiciau yn cael ei ddileu.
Cafodd y Senedd bwerau i lunio deddfau gan San Steffan yn dilyn refferendwm yn 2011 lle cefnogodd y mwyafrif llethol o bleidleiswyr y syniad.
Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi dweud y gallai ymdrechion gan San Steffan i danseilio deddfwriaethau Cymru fod “o bosib yn drobwynt datganoli”.
Mewn cyfweliad gyda'n chwaer bapur, The National, rhai wythnosau yn ôl, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones – cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd – fod “awyr afreal” o amgylch y ddadl dros faterion cyfansoddiadol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Roedd yr Athro Wyn Jones yn cyfeirio at y diffyg trafodaeth ar faterion ymarferol o ran gweithredu newid cyfansoddiadol. Felly pan ddywedodd Mark Drakeford ei fod yn bwriadu “gwrthsefyll” unrhyw symydiadau gan San Steffan i gipio pŵer, roedd angen gofyn un cwestiwn – sut?
Pan ofynnodd Corgi Cymru'r cwestiwn hwn, doedd gan Llywodraeth Cymru ddim ateb.
Rhys ab Owen AS
Mae Rhys ab Owen AS yn cynrychioli Plaid Cymru yn y Senedd a chyn iddo gael ei ethol, roedd yn gweithio fel bargyfreithiwr. Un o'i hoff bynciau yw materion cyfansoddiadol a chyfreithiol Cymru.
Gofynnon iddo beth oedd sail gyfreithiol basai'n galluogi i Mr Drakeford wrthsefyll gweithrediadau San Steffan. Roedd ei ateb yn un syml: “Does dim llawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud”.
Mae ei eiriau'n adleisio sylwadau'r Athro Wyn Jones yn The National pan ddywedodd: “Mae yna gontinwwm yma, o gymeryd pwerau i ffwrdd, a does dim llawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn y cyd-destun hwnnw – wel, does dim byd y gall ei wneud yn gyfansoddiadol.”
Meddai Mr ab Owen ei fod yn credu hyd yn oed petasai'r Blaid Lafur yn ennill etholiad cyffredinol y DG fod gan y blaid yng Nghymru ddyheadau sy'n wahanol i'r arweinyddiaeth yn San Steffa - basai hynny'n golygu na fyddai llywodraeth Lafur o reidrwydd yn fodlon datgloi’r llwybr tuag at ddyfodol cyfansoddiadol cryfach i Gymru a’r Senedd.
“Mae pobl yn dechrau deffro a sylweddoli bod y setliad datganoli dan warchae," meddai Mr ab Owen, "a’i fod wedi bod dan ymosodiad ers tro gyda deddfwriaeth fel y Bil Marchnadoedd Mewnol.
"Fe allai’r setliad datganoli fod yn wannach fyth erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf."
Mae disgwyl y bydd rhagor o streiciau'n cael eu cynnal dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Fe fyddai galluogi’r defnydd o staff o asiantaethau'n gwanhau gallu'r undebau i daro bargen.
Pe bai Llywodraeth Cymru yn herio San Steffan, nid yw’n glir ar ba sail cyfreithiol y byddent yn ceisio gwneud hynny. Byddai diffyg barnwriaeth Gymreig yn debygol o weithio yn erbyn unrhyw ymgais o'r fath gan Lywodraeth Cymru.
“Mae ymdrechion Boris Johnson i dorri’r undebau yn edrych yn fwy tebygol o dorri’r Undeb," meddai Rhys ab Owen.
Commments are closed on this article