Fe welwyd anacroniaeth o'r cyfansoddiad Prydeinig yr wythnos hon, wnaeth daflu golau ar ran o wleidyddiaeth sydd yn aml yn cael ei anwybyddu ar yr ynys hon.

Cafodd digonedd o bobl eu synnu wrth ddarllen y penawdau yn dweud bod aelod o Dŷ'r Arglwyddi wedi awgrymi y dylai refferendwm ar annibyniaeth Yr Alban fod yn refferendwm i bawb ledled y DG, yn hytrach na mater i Albanwyr yn unig.

Wnaeth y sylwadau - cafodd eu disgrifio fel "yn wleidyddol anllythrennog" - ddal fy sylw, nid oherwydd eu cynnwys, ond oherwydd pwy oedd yn siarad: Esgob Blackburn.

Mae Esgobion ac Archesgobion wedi eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ers y 14eg ganrif, felly os bosib fod na glerigwr o'r Alban yno i wrthbrofi'r sylwadau twp?

Wel, na.

Oherwydd natur cyfansoddiad y DG, dim ond clerigwyr o esgobaethau Seisnig sydd yn cael bod yn aelodau'r siambr anetholedig - felly mae'r organ annemocrataidd yma hyd yn oed yn llai democrataidd fyth nac y mae'n ymddangos.

Corgi Cymru: Esgob Blackburn Julian Henderson yn siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi. Dylai bod ganddo'r hawl i wneud?Esgob Blackburn Julian Henderson yn siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi. Dylai bod ganddo'r hawl i wneud?

Digwyddodd y diwygiadau mwyaf diweddar i'r Arglwyddi Ysbrydol fesul Deddf Manchester o 1847 - lle cyfyngwyd y rhif i 26 - sydd yn awgrymu eu bod nhw wedi para'n hirach nag y dylen nhw bron i 200 mlynedd yn ôl.

Dyw'r sylw hwn ddim i fod yn erbyn crefydd. Mae 'na rôl bwysig i arweinwyr crefyddol mewn llywio pobl a siarad allan ar faterion moesol - hyd yn oed rhai gwleidyddol - fel gwnaeth Archesgob Caergaint yn ddiweddar pan ddisgrifiodd polisi'r llywodraeth o allforio mewnfudwyr i Rwanda fel rhywbeth oedd "yn erbyn dyfarniad Duw".

Ond fe ddylai'r rôl fodoli y tu allan i gorfforaethau deddfwriaethol, nid y tu fewn iddyn nhw.

Maen nhw'n gallu bod yn arweinwyr moesol, ond mae'r ffaith fod gan Esgobion ac Archesgobion rôl actif mewn deddfwra a'r hawl i ddadlau a phleidleisio dros ddeddfwriaethau yn hollol honco yn y flwyddyn 2022. Mae hwn yn rhoi'r DG yn yr un cart a'r Fatican ag Iran.

Fel y mae hi, mae Cymru wedi ei dal mewn rhyw 'no man's land' cyfansoddiadol. Mae 'na dŷ deddfwriaethol, ond prin yw'r rhwystrau a gwrthbwysau ar ddeddfwra. Os ydy Cymru yn mynnu annibyniaeth, a fydd angen uwch siambr arni?

Fe ges i sgwrs gyda chyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, sydd ar hyn o bryd yn aelod o'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Fe ddywedodd hi "efallai mai strwythur dwysiambr yw beth sy angen ar Gymru", er fe bwysleisiodd hi "mae 'na fodelau eraill!".

Cyn i mi gael y cyfle i argymell fy hun fel unben caregig dros Gymru rydd, fe ddywedodd hi "os ydyn ni'n datblygu ail siambr yng Nghymru, fe fydd rhaid iddi fod yn hollol etholedig er mwyn gwella democratiaeth".

Felly dim byd fel y gyfundrefn bresennol?

"Mae Tŷ'r Arglwyddi presennol yn wrth-ddemocrataidd ac fe dyled ei dymchwel".

Serch hynny, os ydy Cymru'n dod yn annibynnol ac yn creu gwladwriaeth newydd gyda llechen lan, fe allan ni adael y broblem hynny i'r Saeson.

Corgi Cymru: Cyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae hi'n aelod o'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol CymruCyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae hi'n aelod o'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Yn amlwg, hyd yn oed heb annibyniaeth, mae 'na ddiffygion cyfansoddiadol yng Nghymru heddiw.

Ymhelaethodd Wood: "Un o wendidau mwyaf Cymru yw'r ffaith nad oes yna  awdurdodaeth gyfreithiol, er y ffaith bod ganddi Senedd sydd yn creu cyfreithiau. Ry'n ni angen llysoedd, heddlu a'r holl system cyfiawnder troseddol er mwyn gorfodi cyfreithiau Cymreig. Sa i'n ymwybodol o unrhywle arall yn y byd gyda chyfundrefn fel hyn."

Ac wrth gwrs, mae hi'n hollol gywir.

Enillwyd yr hawl i'r Senedd basio cyfreithiau mewn refferendwm 11 mlynedd yn ôl, ond does ganddi ddim yr aparatws i allu gorfodi'r cyfreithiau nac i oruwchwilio eu gweithredigaeth. Mae'n hen bryd trosglwyddo'r heddlu a chyfiawnder o San Steffan i Gaerdydd.

Os oes gan Gymru'r grym i greu cyfreithiau, fe ddylai bod ganddi'r gallu i oruwchwilio'r cyrff sydd yn gorfodi'r cyfreithiau hynny.

Mae'n debyg bod pawb yn Llywodraeth Cymru, neu wleidyddiaeth Cymru i fod yn onest, wedi anwybyddu ail hanner y frawddeg honno ers 11 mlynedd.

Tra bod dim cangen farnwrol i Lywodraeth Cymru, mae 'na ddiffygion sylfaenol yn y rhwystrau a gwrthbwysau sydd wedi cael eu hadeiladu yn hap a damwain i'r cyfansoddiad Cymreig. Mi fydd ehangu'r Senedd yn helpu llenwi'r bwlch a gwella'r diffyg craffu sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Dydy'r pethau yma ddim yn fan bethau byddai'n 'neis' i'w cael chwaith - maen nhw'n agweddau sylfaenol o lywodraeth sy'n weithredol.

Dwi’n teimlo fel fy mod i byth yn stopio mwydro am hyn - ond os ydy Nicola Sturgeon yn cyhoeddi refferendwm arall ar annibyniaeth Albanaidd, fel mae'r disgwyl iddi wneud yr wythnos nesaf, mae'n rhaid i Gymru ddechrau meddwl am ei dyfodol cyfansoddiadol - sut ydy Senedd sy'n mynd i fod yn fwy ddwyn atebolrwydd gan y llywodraeth?

Ydyn ni'n creu uwch siambr a'i llenwi gyda'r Orsedd efallai - yn ail-greu beth sydd gennym ni'n barod?

Neu oes rhaid bod yn greadigol?

Mae geiriau Leanne Wood yn atseinio: "mae 'na fodelau eraill..."