Am y tro cyntaf ers 1990 mae etholiad Cyngor Cymuned ym mhentref Llanberis wrth droed Yr Wyddfa.

Un pwnc trafod llosg yw dyfodol safle canolfan ymwelwyr Mynydd Gwefru (Electric Mountain) gafodd ei roi’n wreiddiol yn adnodd i’r gymuned gan gwmni First Hydro yn ddiolch am gael codi Pwerdy Dinorwig ar gyfer creu trydan.

Ond dal eu gafael arno mae’r cwmni, a bellach eu bwriad yw dymchwel y ganolfan ymwelwyr sylweddol er mwyn ymestyn y maes parcio a chael incwm o hynny.

Mae Ken Jones yn uchel ei barch yn Llanberis. Yn 1976, y fo wnaeth sefydlu Ras yr Wyddfa, sydd wedi codi llawer o arian i achosion lleol. Mae o hefyd yn Rheolwr Y Ganolfan sy’n adnodd gwerthfawr i drigolion yr ardal.

RHAGOR O NEWYDDION:

“Mae yna 11 maes parcio yn Llanberis yn barod,” meddai Ken Jones, sy’n dadlau nad “adnodd i’r gymuned” yw chwalu’r ganolfan ymwelwyr sylweddol ac ymestyn y maes parcio i ddal tua 150 o lefydd i gerbydau.

Y syniad tu ôl i’r Mynydd Gwefru yn wreiddiol, meddai wedyn, “Oedd digolledu’r pentref pan oedd gwaith adeiladu (Pwerdy Dinorwig) yn mynd yn ei flaen. Gymerodd hwnnw bron i naw mlynedd, a be’ oedd yn digwydd oedd bod y loriau yma yn mynd yn ôl a blaen drwy’r pentref - roedd yna dipyn o aflonydd yma.

"Be wnaethon nhw oedd dweud: 'wnawn ni godi hwn i chi ond ni biau fo ynte'. Chafodd neb erioed o’r pentref fynd ar unrhyw fath o bwyllgor i benderfynu beth i’w wneud efo’r lle.”

Sut oedd canolfan ymwelwyr Mynydd Gwefru'n edrych yn y gorffenol, golygfa o'r mynydd a sut mae'r ganolfan yn edrych nawr, wedi cau. Ffynhonellau: Google Streetview, Hefin Owen CC BY-SA 2.0, Jim Barton CC BY-SA 2.0Sut oedd y ganolfan ymwelwyr yn edrych cyn iddo gau yn 2018. Llun: Jim Barton CC BY-SA 2.0

40 oed yw adeilad Mynydd Gwefru, sydd ar gau ers 2018. Dadl First Hydro, yn ol Ken Jones, yw “bod gormod o waith cynnal a chadw arno fo. Ond dwi’n methu deall hynny – roedden ni’n dathlu 800 mlynedd codi Castell Dolbadarn yn ddiweddar. Cafodd Castell Dolbadarn ei godi 762 o flynyddoedd cyn hwn ac mae o’n dal i sefyll!”

Mae cais First Hydro i ddymchwel canolfan Mynydd Gwefru eto i ddod o flaen Cyngor Gwynedd.

Ond mae Ken Jones am wybod: “Pam na wnaethon nhw ei gynnig o ar werth?

"Efallai byddai Cyngor Gwynedd neu (Lywodraeth Cymru) wedi ei brynu fo – rydan ni’n rhan o Safle Treftadaeth Y Byd. Mae yna ddefnydd iddo fo – mae yno theatr ble’r oedd pobol yn mynd i weld ffilm am hanes y pwerdy ac wedyn roedd yna fws yn mynd a nhw rownd. Roedd hwnnw’n boblogaidd ofnadwy.”

Sut oedd canolfan ymwelwyr Mynydd Gwefru'n edrych yn y gorffenol, golygfa o'r mynydd a sut mae'r ganolfan yn edrych nawr, wedi cau. Ffynhonellau: Google Streetview, Hefin Owen CC BY-SA 2.0, Jim Barton CC BY-SA 2.0Sut mae'r ganolfan yn edrych yn bresennol. Llun: Google Streetview

Gyda rhai yn dadlau y bydd maes parcio arall yn gymorth i helpu taclo problemau parcio’r pentref yn ystod y tymor gwyliau, dyw Ken Jones ddim yn gweld gwerth mawr i’r diwydiant tymhorol hyn.

Yn ddiweddar roedd yn edrych ar lun ysgol ei blant sydd bellach yn oedolion: “O’n i’n gofyn iddyn nhw: 'faint o’r rhain sy’n gweithio’n llawn amser i dwristiaid Llanberis?' Dim un, dim un o gwbl.

"Na, lein Yr Wyddfa yw’r unig gyflogwr llawn amser a dyw’r bobol sy’n mynd ar y trên ddim yn cyffwrdd y llwybrau na gwneud llanast na dim byd. Mae’r busnes twristiaeth yma yn cael ei orliwio.”

Gan gyfeirio at ddyn lleol yn dweud yn ddiweddar ar y teledu fod twristiaeth yn dod a incwm i’r pentref, meddai Ken Jones.

“Yndi, mae o, ond dydi o ddim yn dod a gwaith nac ydi? Dw i’n cofio fy Mam yn gweini yn y Victoria ac mi oedd o’n hwb bach yn yr haf efo Dad yn gweithio yn y chwarel.”

Ar drothwy’r etholiadau lleol, mae yna wahaniaeth barn o fewn pentref Llanberis am ddyfodol safle Mynydd Gwefru.

Pan ddaeth y cynlluniau o flaen y Cyngor Cymuned yn ddiweddar, y consensws oedd “dim gwrthwynebiad” i ddymchwel y ganolfan ymwelwyr a’i droi yn faes parcio, meddai Heather Jones sy’n aelod o Gyngor Cymuned Llanberis.

“Mae o wedi cael ei drafod sawl gwaith,” meddai, gan roi peth o’r bai dros yr anghytuno ar gyfathrebu gwael o gyfeiriad y Cyngor Cymuned ei hun.

“Er fy mod yn gynghorydd cymuned fy hun, mae’r cyfathrebu wedi bod yn ddiffygiol ofnadwy. Bai'r cyngor yw hynny,” meddai, gan ychwanegu nad oes ganddynt hyd yn oed safle Facebook.

Ydi hi’n deg dweud fod gwahaniaeth barn o fewn y gymuned leol ar ddyfodol y safle, “O yndi!” meddai ar ei ben.

Ers 2018, mae drysau’r Mynydd Gwefru ar gau ac mae Heather Jones yn dweud fod yr adeilad fel y mae, “yn berygl ac mae llafnau ifanc ac oedolion wedi bod yn torri i mewn i’r lle, felly mae'n rhaid gwneud rhywbeth efo fo.”

Dyw First Hydro heb ymateb hyd yn hyn i gais am wybodaeth gan Corgi Cymru.