“Gwarchod yr Afon Gwy” sydd wrth wraidd penderfyniad cyfreithwyr Fish Legal i apelio yn erbyn dyfarniad yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd.

Mewn achos ddiwedd Awst, dadl Fish Legal oedd bod Cyngor Sir Powys “heb ystyried yn briodol” yr oblygiadau i’r Afon Gwy pan roddwyd caniatâd cynllunio i ddyblu maint fferm ieir, ger Llanfair ym Muallt, i gadw 180,000 o adar.

Mae Fish Legal yn fudiad sy’n dwyn achosion ar ran cymdeithasau pysgota yn erbyn y rhai sy’n llygru. Yn yr achos yma maen nhw’n gweithio ar ran Cymdeithas Pysgota Rhosan ar Wy (Ross on Wye).

Mae Fish Legal yn hawlio iawndal yn y llysoedd ar ran eu haelodau er mwyn adfer dyfroedd llygredig. Mae eu cyfreithwyr hefyd yn herio llywodraethau a rheoleiddwyr pan maen nhw’n methu gwarchod pysgodfeydd.

Dywedodd Justin Neal, un o gyfreithwyr Fish Legal wrth Corgi Cymru fod pryderon am y 1,100 tunnell o wrtaith (tail) ychwanegol fydd y fferm ieir yn cynhyrchu. Ar ben hynny, fe fydd yr holl ddŵr budr fydd yn deillio o’r ddwy uned (newydd) cadw ieir, yn cael ei gario i waith trin gwastraff ger yr Afon Llynfi.

“Ry’n ni’n dweud ers peth amser mai gormod o ffermydd ieir sydd ddim yn cael eu rheoleiddio, ac s’yn cael caniatâd cynllunio heb unrhyw graffu, sy’n llygru’r Afon Gwy.”

Ychwanegodd Neal, “Mae’r Gwy yn  afon werthfawr iawn ac mae’r bobol sy’n byw o’i chwmpas yn deall pa mor bwysig yw hi. Ond dros y tair blynedd diwethaf yn enwedig, mae’r problemau gyda’r blŵm algaidd sydd ynddi wedi gwaethygu.”

Mae blŵm algaidd yn gallu mygu afonydd fel nad oes dim yn gallu byw ynddi. Un o’r rhesymau pam fod blŵm algaidd yn gallu ffynnu mewn afonydd yw am fod gormod o faetholion yn llifo i mewn iddi.

Yn ôl Neal, mae’r maetholion hynny yn dod “yn uniongyrchol o’r gwrtaith (tail) cywion ieir, sy’n cael ei wasgaru ar y tir ac sy’n llifo i mewn i’r afon pan mae’n glawio. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud dyw hyn ddim yn broblem …”

Mae’r tail o’r ffermydd ieir yn y rhan yma o Bowys - ynghyd a rhai ffermydd ieir yr ochr arall i’r Afon Gwy yn Lloegr, yn cael ei gario i waith trin gwastraff ger yr Afon Llynfi.

Ond yn ôl Neal, mae’r Afon Llynfi, sy’n rhedeg i mewn i’r Afon Gwy, eisoes yn “methu ei thargedau ffosffad.”

Yn rhan o ddadl gyfreithiol Fish Legal yw bod yr Afon Llynfi mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) tra bod yr Afon Gwy mewn Ardal o Gadwraeth Arbennig (SAC).

Dywedodd Neal, “Ry’n ni’n siomedig gyda phenderfyniad y barnwr a’i fod wedi methu ystyried yr effaith amgylcheddol ar Ardal o Gadwraeth Arbennig yr Afon Gwy. Er lles yr afon ry’n ni wedi penderfynu  apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod yr hawl i ni fynd am adolygiad barnwrol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys, "Mae'r penderfyniad i apelio i'r Uchel Lys yn fater i Fish Legal, nid i'r Cyngor. Ni fyddem yn rhoi sylw ar hyn o bryd."

Mae Kim Waters o Undeb Afonydd Cymru o’r farn nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) “yn gwneud eu gwaith o ran llygredd amaeth. Mae’r hyn y maen nhw wedi gadael i ddigwydd yn yr Afon Gwy yn drosedd yn fy nhyb i. Pan oedden ni’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd fe aethon nhw a Llywodraeth Cymru i’r llys am fethu gwarchod Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.”

Mewn erthygl yn Corgi Cymru ar Fedi 21 roedd Waters yn feirniadol o CNC am fethu dwyn yr un achos am lygru yn erbyn Dŵr Cymru yn ystod 2021.

Fe ofynnon ni i swyddfa’r wasg CNC, yn Gymraeg, am ymateb i sylwadau Waters.

Mewn e-bost uniaith Saesneg yn ôl, dywedodd llefarydd ar ran CNC:

“Dw i heb fedru edrych mewn manylder ar ein data o ran camau gorfodi gan y byddem angen rhagor o amser i wneud hyn yn gywir. Ond, dw i wedi tynnu’r dyfyniadau canlynol o adroddiad perfformiad blynyddol Dŵr Cymru.

“Yn 2021 fe wnaethon ni gwblhau ymateb gorfodaeth i ddau achos o lygru yng Nghymru. Yn 2021 cafodd Dŵr Cymru ei herlyn am ddigwyddiad o lygredd … laddodd bysgod ym Medi 2018 …Rhoddodd y llysoedd ddirwy o £180,000, costau o £25,701.50 a thal ychwanegol i’r dioddefwr o £170. Yn ogystal, fe dderbyniodd Dŵr Cymru rybudd ffurfiol yn 2021 am ddigwyddiad o lygru yn ein gwaith trin (dŵr) ym Maerdy …”

Ychwanegodd: "Mae’n werth nodi fod sawl ffurf wahanol i gamau gorfodi … Fel rheoleiddiwr, mae’n well gennym ffocysu ein hymdrechion ar leihau achosion o lygru rhag niweidio ein hamgylchedd yn y lle cyntaf, yn hytrach na chymryd camau cyfreithiol pan mae’r difrod eisoes wedi ei wneud.”