Wrth feddwl am y diwydiant glo yng Nghymru, mae'n hawdd meddwl am resi o dai deras yn sownd wrth ymylon serth cymoedd y de.

Ond efallai ei bod hi'n dod fel syndod i rai, gan gynnwys rhai o'r ardal, bod glofeydd y gogledd wedi chwarae rhan bwysig mewn rhai o frwydrau cymdeithasol mwyaf sylweddol oes Victoria.

Does dim modd gwahanu hanes Cymru o'r diwydiant glo. Does dim syndod chwaith mai glo oedd y prif beth oedd yn cael ei allforio o Gymru, mewn cyfnod pan oedd sefydliadau cenedlaethol a'r hunaniaeth fodern genedlaethol yn dechrau cymryd siâp.

Roedd poblogaeth Cymru yn dechrau ffrwydro fel canlyniad i'r ffyniant economaidd a ddaeth o allforio glo i bob cwr o'r Ymerodraeth Brydeinig. Mae'n hawdd felly meddwl am y ffrwydriad yma yn digwydd dim ond yn y de, ond mae gan y gogledd hanes cystal o ddiddorol.

Mae'r traeth a'r twyni yn Nhalacre, gyda'r goleudy eiconig, yn cuddio hanes diwydiant trwm yr ardal. Mae'r pentref cyfagos yn Ffynnongroyw yn datgelu ychydig - lon sengl drwy'r pentref, gyda thai teras cerrig bob ochr iddi, gyda chapeli mawr trwyddi - mae'n edrych fel bod corwynt wedi cymryd pentref o'r Rhondda a'i ollwng yn blwmp ar arfordir y gogledd.

Corgi Cymru:

Adeiladwyd Ffynnongroyw i'r gweithwyr yng nglofa gyfagos y Parlwr Du. Estynnwyd y glo yma allan o dan lannau'r Dyfrdwy tuag at Cilgwri a Lannau Mersi. Cafodd glo ei blycio o'r ddaear yma tan Awst 1996.

Doedd darganfyddiad glo yn yr ardal ddim yn beth hwyr, chwaith. Yn 1841 roedd tua 3,700 o lowyr yn yr hen sir Glwyd, ac erbyn 1861 roedd 73 o byllau yn yr ardal.

Er i'r ardal ddioddef un o drychinebau cloddio gwaethaf y DG yng Ngresffordd ym 1934, dydy gogledd ddwyrain Cymru ddim yn cael y sylw am ei hanes gyda glo. Mae e fel petai'r hen sir yn cuddio yng nghysgod byth-barhaol diwydiant glo y de.

Does dim syndod, felly, bod stori terfysg Yr Wyddgrug 1869 wedi diflannu o'n cof casgliadol, er gwaethaf natur anfarwol anghydfodau yng Nghymru.

Er bod twf anferth wedi bod yn y diwydiant glo yn ystod y ganrif, erbyn yr 1860au roedd y galw am lo'r gogledd wedi cyfyngu. Roedd toriadau i dal y gweithwyr yn gyffredin.

Yn ystod y cyfnod hwn, fe welwyd nifer o byllau'n cael eu prynu gan berchnogion Saesneg, ac wrth i lowyr Cymreig dderbyn eu cyd-weithwyr o Loegr o dan y ddaear diolch i solidariaeth yr undebau, fe dyfodd y ffrithiant rhyngddyn nhw a'r perchnogion absennol.

Yn y pen draw, rhoddod y cyfrifoldeb dros y pyllau i'r perchnogion Saesneg yn lle rheolwyr Cymreig, ac fe welwyd tueddiad wrth-Gymreig yn tyfu, a diffyg parch tuag at y gweithwyr lleol.

Corgi Cymru:

Ym 1863, fe roddwyd wythnos o rybudd i chwe glöwr yng Nghoed-llai ger Yr Wyddgrug bod eu gwaith yn dod i ben, a'u bod am gael eu lluchio allan o dai'r cwmni lle roedden nhw'n byw.

Ar ddiwrnod y dadfeddiant, aeth 600 o weithwyr ar streic. Fe aethon nhw i dŷ rheolwr y pwll a'i orymdeithio at orsaf trên Yr Hôb (gan brynu diod iddo ym mhob tafarn ar y ffordd, gyda llaw), a phrynu tocyn iddo yn ôl i Loegr.

Dyma un o ddwsinau o esiamplau o'r ardal o "pacio i ffwrdd" - dyma beth oedd arf i weithwyr Cymreig ei ddefnyddio yn erbyn y cyflogwyr o Loegr.

Roedd glofa Leeswood Green yn cael ei rhedeg gan deulu Cymreig, ond erbyn 1859 roedd hi o dan berchnogaeth Saes. Yn 1863, John Young o Durham oedd yn rheoli - a fe gymerodd lle rheolwr Cymreig poblogaidd - gan achosi drwg deimlad yn lleol.

Fe ddoth Young a gweithwyr o Loegr i weithio mewn swyddi oedd yn haws na'r rhai roedd y gweithwyr Cymreig yn eu gwneud, a fe welodd y Saeson gyflogau tua thair gwaith mor uchel. 

Mae'r nofel gyntaf Cymraeg - Rhys Lewis gan Daniel Owen - wedi ei osod yn ardal Yr Wyddgrug ac mae'n debyg bod y cymeriad sy'n rheoli'r pwll - y Sais, Mr. Strangle - wedi ei seilio ar John Young.

Erbyn 1869 gyda'r enciliad yn y farchnad glo, toriadau i gyflogau a blynyddoedd o gasineb yn tyfu tuag at Young a'r ffordd roedd yn rheoli, fe waethygodd y sefyllfa.  Cyhoeddodd Young doriad cyflog arall oedd yn effeithio ar y gweithwyr Cymreig - gan gymryd bron i ddau draean o'u cyflogau arferol.

Deuddydd ar ôl y toriad cyflog, fe aeth dau gant o lowyr at Young i fynnu'r hen gyflog. Pan wrthododd, fe benderfynodd y dorf i'w bacio i ffwrdd.

Yn ôl The Times ar y pryd, roedd y glowyr wedi rhoi: "very short notice to quit according to a custom peculiar to the district”.

Erbyn iddyn nhw gyrraedd gorsaf Yr Hôb, roedd yr heddlu wedi cyrraedd. Roedd Young yn hapus iawn i esbonio pwy oedd arweinwyr y grŵp a'u cyhuddo nhw o drais.

Cafodd wyth eu arestio, ond nid cyn i dorf o 1,500 orymdeithio i'r Wyddgrug a gorfodi'r rhyddhad o un o'r glowyr.

Fe ymddangosodd wyth glöwr mewn achos arbennig yr wythnos yn ganlynol yn Yr Wyddgrug.

Dyna pryd wnaeth miloedd o lowyr orymdeithio'n heddychlon i'r Wyddgrug er mwyn dangos solidariaeth gyda'r carcharorion. Bwriad y dorf oedd aros yn heddychlon er mwyn dangos i'r ynadon bod yr achos yn un cyfiawn.

Serch hynny, doedd yr heddlu ddim eisiau cael ei dal yn cysgu chwaith, felly cafodd hanner can milwr o Loegr eu galw er mwyn cadw'r heddwch.

Cafodd chwech allan o'r wyth ddirwyon, ond fe ddedfrydiwyd y ddau arall i wneud gwaith caled. Roedd y dorf wedi synnu.

Roedd y ddau garcharor i fod i gael eu dwyn at drên cyfagos ond roedd y dorf wedi troi a ddechreuon nhw daflu cerrig yn ddi-baid at yr heddlu a'r milwyr - roedd y menywod yn dal cerrig yn eu ffedogau er mwyn i'r dynion gallu eu taflu.

Saethodd y milwyr at y dorf heb rybudd. Cafodd dau ddyn a dwy fenyw eu lladd.

Corgi Cymru:

 

Fe ofynnais i'r athro Martin Johnes, arbenigwr yn hanes Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, pam bod Terfysg Yr Wyddgrug 1869 ddim wedi parhau yng nghydwybod y Cymry fel achosion eraill fel Terfysg Merthyr 1831, y Siartwyr yng Nghasnewydd neu Merched Beca.

"Roedd graddfa ac effaith gyfoesol Yr Wyddgrug lot yn llai na'r Siartwyr neu Beca," fe ddywedodd.

"Yn bellach, roedd terfysg Yr Wyddgrug yn anghyffredin. Roedd perthnasau diwydiannol yng nghymunedau glo yn cael eu diffinio lot mwy gan densiwn dosbarthiadol yn hytrach nag iaith a chenedlaetholdeb".

Petasai pedwar aelod o'r cyhoedd wedi cael eu lladd o flaen Tesco'r Wyddgrug yn 2022, mae'n debyg y byddai'r syndod yn teithio'n bellach na ffiniau Sir y Fflint. Ond yng nghyd-destun y cyfnod roedd hi'n anghydfod arall go gyffredin rhwng gweithwyr a grymoedd y wladwriaeth.

Mae'r ffaith bod effaith gyfoes y terfysgoedd mor bitw yn dangos pa mor gyffredin oedd y fath ddadlau o gwmpas Cymreictod mewn cyfnod lle'r oedd y genedl ddim ond yn dechrau ar y siwrne o ddarganfod llais.