Mae elusen cancr wedi rhybuddio bod amseroedd aros ar gyfer cleifion yng Nghymru yn cynyddu.

Dywedodd Macmillan Cancer Support bod oedi i gleifion cancr yn golygu bod dros bedwar ym mhob 10 claf wedi gorfod aros i ddechrau derbyn triniaeth.

Mae data Llywodraeth Cymru ar gyfer mis Ebrill yn dangos bod 56.4% o gleifion cancer wedi derbyn triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod. Y targed cenedlaethol ydy 75%.

Mae'r canran hynny yn golygu bod 623 person yng Nghymru wedi dioddef oedi i'w triniaeth cancer yn Ebrill.

Ym mis Mawrth eleni y ffigwr o'r nifer i dderbyn triniaeth cancr gyntaf o fewn 62 diwrnod oedd 58.7%, sydd yn dangos cynnydd mewn amseroedd aros. Mae'n bosib bod yr oedi wedi digwydd oherwydd mis Mawrth oedd mis prysuraf erioed gwasanaeth gofal cancr Cymru, gyda dros 15,000 o ddiagnosis cancr potensial.

Meddai Richard Pugh, Pennaeth Partneriaeth Macmillan Cancer Support yng Nghymru: "Mae'r data yn dangos tueddiad o amseroedd aros yng Nghymru sydd yn gwaethygu, gyda dros bedwar ym mhob 10 o bobl gyda chancr yma ddim yn dechrau triniaeth o fewn amser ym mis Ebrill.

"Mae'r ffigurau'n dangos bod perfformiad wedi gostwng ar gyfer y pedwar math mwyaf cyffredin o gancr - y frest, ysgyfaint, wrolegol a gastroberfeddol isaf - a'r mwyafrif o fathau o gancr.

"Mae'r oedi yma'n golygu ei bod nhw a'i theuluoedd yn gwynebu oedi gofidus a phoenus, sydd yn gallu effeithio ar lwyddiant eu triniaeth.

"Mae'r ffigurau pryderus yma yn dangos sut mae'n system gofal cancr yn brwydro i ymdopi gyda galw er gwaethaf ymdrechion dewr staff y GIG.

"Rydym angen ffocws brys i wella gofal cancr yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol, yn enwedig gyda Chymru'n gweithio at darged o 80 y cant o bobl gyda chancr yn cael eu trin ar amser erbyn 2026".

Fe ddywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies: "Mae cancr yn glefyd ofnadwy ac mae'r ffaith bod dipyn dros hanner o bobl yn cael eu gweld o fewn y targed o 62 diwrnod yn awgrymu bod amseroedd oedi cancr yn mynd yr un ffordd a'r rhestr triniaeth etholedig sydd wedi tyfu at un ym mhob pum person yng Nghymru.

"Rydw i wir yn teimlo dros unrhyw un sydd yn ffeindio eu hunain mewn poen ar y cyfarwyddiadur y cyfrgoll. Gall eu bywydau dydd-i-ddydd cael ei effeithio yn ogystal â'u gallu i ennill arian yng nghanol argyfwng costau byw.

"Mae'n rhaid i Lafur ymafael ar y GIG ac i stopio torri'r recordiau anghywir".

Fe ofynnwyd i Lywodraeth Cymru gwneud sylw.