Fe fydd mudiad newydd yn dwyn i gyfrif y cyrff cyhoeddus a’r asiantaethau sy’n fod i reoli llygredd mewn afonydd.

Mae Kim Waters yn un o sylfaenwyr Undeb Afonydd Cymru - sef grŵp o wirfoddolwyr sydd am herio’r drefn sy’n gadael i afonydd Cymru farw.

Dywedodd wrth Corgi Cymru, “Ry’n ni eisiau i’r sefydliadau wneud eu gwaith a bod yn atebol ac i ddwyn y rhai sy’n llygru i gyfrif. Pe byddai hynny’n digwydd yna fydde dim rhaid i ni yn Undeb Afonydd Cymru fodoli o gwbl.”

Dros y penwythnos a fu, roedd Kim Waters yn brysur wrth y llyw yng Ngŵyl Fwyd Y Fenni. Ond hon oedd ei olaf meddai, am ei fod am ganolbwyntio ar ymgyrchoedd Undeb Afonydd Cymru.

Gwelwyd y Medelwr Mawr yn padlo ar hyd yr Afon Gwy y llynedd.Mae ymgyrchwyr wedi bod yn ymladd i ymladd i amddiffyn yr Afon Gwy ers rhai blynyddoedd.

“Fydden ni ddim yn cynrychioli ffermwyr na physgotwyr, neb heblaw’r afonydd," meddai Mr Waters. "Fe fydden yn dwyn pwysau ar y rhai sy’n gyfrifol dros reoleiddio, i wneud eu gwaith ac i ddirwyo'r rhai sy’n llygru.

"Ry’n ni’n grŵp gwirfoddol. Dw i ddim yn wrth sefydliad a dw i wirioneddol yn credu yng Nghyfoeth Naturiol Cymru. Ond dw i hefyd yn credu y dylen nhw wneud eu gwaith a dydyn nhw ddim ar hyn o bryd.

"Wnaethon nhw ddim dwyn yr un achos yn erbyn Dŵr Cymru'r llynedd.”

MWY: 

Mae’n bosib adfer afonydd sy’n marw, yn ol Mr Waters sy’n wreiddiol o Gasnewydd, ac sy’n dweud fod yr Afon Ebwy yn esiampl o hynny ar ôl cau’r pyllau glo.

“Ond os yw’r difrod yn sylweddol yna mae adferiad yr afonydd yn mynd i gymryd amser maith," eglurodd.

"Yr hyn ry’n ni’n weld nawr yw’r clasuron - y Gwy, y Wysg, y Teifi, y Tywi - maen nhw i gyd yn farw. O bersbectif bioamrywiaeth mae hynny’n amlwg a does yna neb yn dadlau efo hynny bellach.”

Gwelwyd y Medelwr Mawr yn padlo ar hyd yr Afon Gwy y llynedd.Ymgyrchwyr wrth ymyl yr Afon Gwy

Ers y 1970au mae’r niferoedd o sewin ac eog yn yr afonydd hyn wedi disgyn 90% yn ôl Mr Waters.

“Mae hynny’n adrodd cyfrolau - ar un adeg roedd yr afonydd hyn yn asgwrn cefn yr economi leol. Mi fydden yn ffodus os gwelwn 50 o eogiaid yn y Wysg eleni. Ond nol yn y 1970au roedd hyd at 4,000 yn cael eu dal ynddi.”

Er hynny, yn gynharach y mis hwn, mae pysgotwyr amlwg o Gymru wedi bod yn galw am farchnata Cymru fel lle da i bysgota pluen.

Mewn ymateb, dywedodd Mr Waters: “Mae yna lefydd da o hyd, yn arbennig felly'r llynnoedd ac ambell i afon fechan. Ond mae pysgota am sewin ac eog wedi crebachu. Ar un adeg afonydd gorllewin Cymru oedd yr afonydd gorau yn Ewrop am sewin (neu frithyll mor).”

Gwelwyd y Medelwr Mawr yn padlo ar hyd yr Afon Gwy y llynedd.Kim Waters. Llun: Undeb Afonydd Cymru

Dros y blynyddoedd mae Kim Waters, sydd ei hun yn hoffi pysgota, wedi gwirfoddoli gydag ystod eang o gyrff pysgota yng Nghymru.

Ond bellach mae o wedi troi cefn arnynt ac wedi sefydlu Undeb Afonydd Cymru.

Dywedodd, “Mae’r cyrff yma sy’n bodoli yn rhan o’r broblem - dyna sut dw i yn ei gweld hi.”