Mae angen ystyried Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd fel un rhanbarth, o safbwynt ymchwil a llywodraethu.

Dyna fydd yn sail i ddatblygu fframwaith economaidd mewn gweithdy arbennig wedi’i drefnu gan Brifysgol Bangor.

Mae nifer o fusnesau ar hyd a lled arfordir Cymru yn gwneud bywoliaeth allan o’r môr. Mae hyn yn cynnwys pysgota, dyframaeth (aqualculture), twristiaeth a thrafnidiaeth.

Yn ogystal, mae’n lleoliad pwysig ym maes cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Mae gan Car-y-Môr ddwy fferm beilot yn y môr ger Tŷ Ddewi ym Mhenfro yn ffermio pysgod cregyn a gwymon.Llun: Câr-Y-Môr

Yr Ysgol Gwyddorau Eigion sydd wedi’i lleoli ar lannau’r Afon Menai - ac sy’n un o’r adrannau mwyaf o’i bath yn Ewrop - sy’n arwain y gweithdy gydol y dydd heddiw, Medi 16.

Y prif themâu yw newid hinsawdd, cynaliadwyedd, gwytnwch a chymunedau arfordirol. Bydd cynrychiolwyr o’r byd academaidd, diwydiant, cymunedau a’r llywodraeth yn rhan o’r gweithdy.

Yn dilyn ymlaen o’r Towards Blue Solutions Workshop a’r Irish Sea Symposium, a gynhaliwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ym mis Gorffennaf, y cynllun yw datblygu fframwaith fydd yn arwain at ragor o gydweithio ar draws Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd.

Mae gan Car-y-Môr ddwy fferm beilot yn y môr ger Tŷ Ddewi ym Mhenfro yn ffermio pysgod cregyn a gwymon.Llun: Câr-Y-Môr

Un fydd yn cymryd rhan yn y gweithdy yw Owen Haines o Car-y-Môr sydd am “ddiolch am bopeth mae Prifysgol Bangor wedi ei wneud i’n helpu ni,” meddai wrth Corgi Cymru.

Mae gan Car-y-Môr ddwy fferm beilot yn y môr ger Tŷ Ddewi ym Mhenfro yn ffermio pysgod cregyn a gwymon. Wedi’i gofrestru yn gwmni er budd y gymuned, dyw Car-y-Môr ddim yn defnyddio unrhyw wrtaith, plaladdwyr na dŵr ffres.

Yn ôl Owen Haines: “Ein nod yw gwella'r amgylchedd arfordirol a gweithio er lles y gymuned leol drwy greu gwaith ac agor llwybr i bobol ifanc i mewn i’r sector bwyd môr yng Nghymru.”

Mae Owen wedi chwarae rhan allweddol yn helpu fferm wymon sefydlu yn Ynys Môn.

Yn gyn-fyfyriwr Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, yn 2020 aeth Christian Berger ati i sefydlu’r fferm wymon ar raffau o’r lan i’r môr, ger trwyn Penmon, nepell o dref Biwmares. Mae’r pwyslais ar ddyframaeth gwymon brodorol.

Yn ogystal â bod yn fwyd maethlon sy’n gynaliadwy, mae gwymon yn chwarae rhan allweddol o fewn yr ecosystem.

Ers talwm, roedd gwymon yn cael ei ddefnyddio gan dyddynwyr Ynys Môn yn wrtaith naturiol ar y tir. Felly hefyd ar ynysoedd Ucheldir yr Alban.